kywydd y galonn
1 Oio galonn vergronn
vach
2 ddieres whaer ddieiriach
3 a vu dryll vwy o drallawd
4 no thydy gwehydddy gwawd
5 [23r] palmeres mynwes ai maeth
6 penwynn gehyryn hiraeth
7 kronn vorwyn ryderwyn daer
8 krvglwyth meddylieu kroywglaer
9 llonydd vydd vodd di vocsach
10 llenwi y bydd llvn wy bach
11 honn a beir kadeir kevdawt
12 henw anyfrwys gwenwys gwawt
13 Rhuat wyllt ddyn ryot wael
14 rhy hy anserchog rhyhael
15 ystyriet windrevl devlu
16 y ddiot vach ddaet vu
17 honn a wna anregva rhawc
18 hwyl berw llv hael byrrllawiawg
21 arhylew ar heolydd
22 wyneb oer yno ny bydd
23 heb ei kael heibio kiliwyf
24 dolvr ai klev wnevthur klwyf
25 yr eil ydyw ar loywdarf
26 vno dros wefl vefl ar varf
27 [23v] y trydydd ny wybydd neb
28 troev dyn trwy odineb
29 yn chwenychv chwaen vchel
30 dwyn y dyn gwylwynn dan gel
31 hynny yw gwreidd yr heinniev
32 henw swydd valch honno sydd vev
33 nit mwy ryvel dan geli
34 dyn na mil myn duw no mi
35 yn karv nessau serch
36 er anvodd pawb yr vnverch
37 pobl wrthrych llewych llywy
38 pefr veinwyr pawb a wyr pwy
39 mygr hyloyw magwyr hoywloer
40 morvyvdd deg i devryvdd dioer
41 hoen tes pan vai huan taer
42 ar vronn olyglonn loywglaer
43 haelwen leddf heilwin lwyddverch
44 heulwenn a serenn y serch
Davyd ap glim' ai kant
Darlleniadau Amrywiol
Exr per vetust
1 bengronn bach
2 whaen
13 gwyll gwael
16 vedd
28 troi y